Carlam Cymru

Beth yw Carlam Cymru?

Casgliad o adnoddau adolygu AM DDIM sy’n cynnig cefnogaeth ychwanegol gydag astudiaethau TGAU a Safon Uwch wrth baratoi ar gyfer yr arholiadau yw Carlam Cymru. Mae’r casgliad yn cynnwys fideos ar Sgiliau Adolygu a Lles hefyd.

Ap Carlam Cymru

Mae gan Carlam Cymru ap erbyn hyn sydd wedi’i gynllunio i hwyluso chwilio am fideos a rhoi trefn ar yr adolygu gan wneud popeth yn haws fyth.

Cer i’r App Store neu Google Play i lawrlwytho Ap Carlam Cymru. Gelli di wedyn greu rhestr chwarae bersonol o’r fideos sy’n berthnasol i’r cyrsiau rwyt ti’n eu hastudio.

Amdani!